logo Peint o Hanes

Peint o Hanes Plîs


Mae'r wefan a databas Peint o Hanes bellach yn fyw 'Tasech chi am i rywun ddod i siarad am y brosiect i'ch grŵp neu gymdeithas (yn y Gymraeg neu Saesneg)

Mae gennym hefyd deunydd ar gyfer arddangosfeydd lleol displays (yn eich tafarn neu neudd/amgueddfa/llyfrgell/ysgol) a thaflenni i'w dosbarthu o gwmpas y sir. Mynnwch cyflenwad.


Beth yw'r Fforwm Hanes Lleol Ceredigion?

Tanysgrifiwch at ein e-rhestr


Pwyllgor y Fforwm

Cadeirydd: Jane Kerr
Is-gadeirydd: Michael Freeman
Ysgrifennydd: Nigel Callaghan
Trysorydd: Helen Palmer

Aelodau'r Fforwm

Mae'r mudiadau isod yn aelodau'r Fforwm ar hyn o bryd. Gweler y dudalen aelodau am fanylion cyswllt.
Archifdy Ceredigion
Amgueddfa Ceredigion
Canolfan Treftadaeth Cei Newydd
Treftadaeth Llandre
Ceredigion FHS
Hanes Ceredigion
Cymdeithas Hanes Cylch Tregaron
Cymdeithas Hanes Aberporth
Grŵp Hanes Lleol Cilcennin
Hanes Llambed
Hanes Emlyn
Ceredigion Assoc of N.T. Members
Cymdeithas Hanes Llansantffraed
Hanes Aberteifi
Cymdeithas Treftadaeth Llangynfelyn
Fforwm Hanes Cymru
Archaeolog Cambria
Archeolegwyr Ifainc Ceredigion
Hanes Llangeler
Treftadaeth Llandre
Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed (Aberteifi)
Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul a'r Fro
Y Ferwig a'r ardal
Cymdeithas Aberaeron
Cymdeithas Hanes Maes a Môr (Ffostrasol)
Cymdeithas Hanes Blaenpennal (Ffostrasol)

Prif bwrpas y Fforwm yw gweithio fel grŵp ymbarêl, sy'n cyfuno'r cymdeithasau a mudiadau gyda diddordeb yn hanes lleol, hanes teuluol a threftadaeth o fewn Ceredigion, gyda'r amcan o godi proffil hanes lleol o fewn y sir.

Mae'r fforwm yn darparu modd i'r mudiadau sy'n aelodau hysbysebu eu digwyddiadau wrth ei gilydd, trwy'r wefan a dulliau eraill. Gweler y Digwyddiadur - fel arfer mae'r cyfarfodydd ar agor i bawb.

Mae'r Fforwm hefyd yn trefnu cyfarfodydd agored, dwywaith y flwyddyn fel arfer, gyda siaradwyr gwadd sy'n siarad am amrywiaeth o bynciau diddorol. Mae'r cyfarfodydd yn cynnig cyfle i aelodau o grwpiau gwahanol gwrdd â'i gilydd a siarad wyneb yn wyneb a chyfnewid syniadau a phrofiadau.

Pe hoffai'ch mudiad ymuno â'r Fforwm, cwblhewch y ffurflen ymgais hon (PDF) a'i hanfon, gyda'r tanysgrifiad (£10 ar hyn o bryd) at yr Ysgrifennydd.

Os ydych chi am dderbyn newyddion am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cewch danysgrifio at ein rhestr e-bost (=====>) neu ein dilyn ni ar Trydar (@ceredigionlhf)

Cyfarfod nesaf



Oherwydd y Pla mae'r Fforwm wedi bod yn gaeafgysgu dros y blynyddoedd diwethaf, ond nawr RYDYM YN ÔL!

Bydd ein cyfarfod nesaf ar DDYDD SUL (d.s. nid dydd Sadwrn, fel o’r blaen) Mai 21ain, o 1.30-5.00 o’r gloch yn Neuadd Llwyncelyn. Y thema yw 'Adnewyddu yn y Gwanwyn' a bydd y cyfarfod yn cynnwys cyfres o sgyrsiau byr ar sut i gael y gorau o'r holl adnoddau sydd ar gael ar gyfer hanes lleol a theuluol yng Ngheredigion.

12.30-1.30 Cofrestru a choffi. Mae croeso i chi ddod â'ch brechdanau a'u bwyta yn y Neuadd cyn i ni ddechrau.

1.30 Beryl Evans, adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol

2.00 Helen Palmer ar Archifau

2.30 Nigel Callaghan ar Adnoddau Ar-Lein

3.00 Lluniaeth

3.30 Jane Kerr ar Brosiectau/Ymchwil i Gymdeithasau

4.00 Helen Palmer ar yr hyn sydd gan BALH (British Assoc for Local History) i’w gynnig i gymdeithasau ac unigolion

4.15 Michael Freeman ‘cyfrif y ceiniogau – yr hyn y mae llyfrau cyfrifon yn ei ildio’

4.45 Diweddglo a chynlluniau ar gyfer y dyfodol


(Bydd pob sgwrs yn Saesneg)

Lleoliad Lleolir y Neuadd ar y A487 rhwng Llanarth ac Aberaeron bron yn gyferbyn á'r Siop / Gorsaf Petrol.

Mynediad £2.00, i gynnwys te, coffi a chacen. Croeso cynnes i bawb.

Cysylltu â'r Ysgrifennydd ( / 01970 832573) i fwcio le, er mwyn i ni ddod â digon o gacen!