Prosiectau

Tan 2012 prif weithgaredd y Fforwm oedd trefnu cyfarfod dwywaith y flwyddyn er mwyn cynnig cyfle i aelodau cwrdd â'i gilydd, gwrando ar sgyrsiau diddorol ac i gyfnewid syniadau.

Mae hwn wedi newid bellach! Rydym yn dal i drefnu'r cyfarfodydd, ond nawr rydym hefyd yn cydlynu rhai prosiectau, lle mae nifer o gymdeithasau a grwpiau yng Ngheredigion yn gallu cydweithio i wneud ymchwil ar ryw bwnc arbennig.

Ym mod achos, rydyn yn bwriadu defnyddio'r wefan hon fel lleoliad canolog ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am y prosiectau - nodiadau cyffredinol, adysgrifau o ddogfennau, lluniau ayyb.

I gychwyn, mae dau brosiect:

"Peint o Hanes, Plîs!"


Prosiect sy'n gysylltiedig â'r cais 'Cynefin' gan LLGC i gael arian i ddigideiddio mapiau'r Degwm. Mae ein prosiect ni yn edrych at dafarndai hanesyddol yng Ngheredigion. mwy o fanylion am y prosiect Tafarndai

"Rhyfel y Byd Cyntaf a Cheredigion"


Gyda'r canmlwyddiant cychwyn Rhyfel y Byd Cyntaf yn 2014, mae llawer o grwpiau (cymdeithasau lleol a sefydliadau fwy fel LLGC, Amgueddfa Ceredigion ac Archifdy Ceredigion ayyb) yn cynllunio amryw ddigwyddiadau a gweithgareddau i gofnodi'r rhyfel. Mae'r Fforwm yn edrych ar sut i helpu grwpiau rhannu gwybodaeth maen nhw wedi casglu, a'u syniadau am goffâd. mwy o fanylion am brosiect WWI