Cadeirydd: Michael Freeman
Is-gadeirydd: Jane Kerr
Ysgrifennydd: Nigel Callaghan
Trysorydd: Helen Palmer
Aelodau'r Fforwm
Mae'r mudiadau isod yn aelodau'r Fforwm ar hyn o bryd. Gweler y dudalen aelodau am fanylion cyswllt.
• Archifdy Ceredigion
• Amgueddfa Ceredigion
• Canolfan Treftadaeth Cei Newydd
• Treftadaeth Llandre
• Ceredigion FHS
• Hanes Ceredigion
• Cymdeithas Hanes Cylch Tregaron
• Cymdeithas Hanes Llanddewi Aberarth
• Cymdeithas Hanes Borth
• Cymdeithas Hanes Aberporth
• Hanes Llambed
• Hanes Emlyn
• Ceredigion Assoc of N.T. Members
• Cymdeithas Hanes Llansantffraed
• Hanes Aberteifi
• Prosiect Hanes Digidol Llangynfelyn
• Fforwm Hanes Cymru
• Archaeolog Cambria
• Archeolegwyr Ifainc Ceredigion
• Hanes Llangeler
• Treftadaeth Llandre
• Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed (Aberteifi)
• Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul a'r Fro
• Y Ferwig a'r ardal
Beth yw'r Fforwm Hanes Lleol Ceredigion?
Prif bwrpas y Fforwm yw gweithio fel grŵp ymbarêl, sy'n cyfuno'r cymdeithasau a mudiadau gyda diddordeb yn hanes lleol, hanes teuluol a threftadaeth o fewn Ceredigion, gyda'r amcan o godi proffil hanes lleol o fewn y sir.
Mae'r fforwm yn darparu modd i'r mudiadau sy'n aelodau hysbysebu eu digwyddiadau wrth ei gilydd, trwy'r wefan a dulliau eraill. Gweler y Digwyddiadur - fel arfer mae'r cyfarfodydd ar agor i bawb.
Mae'r Fforwm hefyd yn trefnu cyfarfodydd agored, dwywaith y flwyddyn fel arfer, gyda siaradwyr gwadd sy'n siarad am amrywiaeth o bynciau diddorol. Mae'r cyfarfodydd yn cynnig cyfle i aelodau o grwpiau gwahanol gwrdd â'i gilydd a siarad wyneb yn wyneb a chyfnewid syniadau a phrofiadau.
Pe hoffai'ch mudiad ymuno â'r Fforwm, cwblhewch y ffurflen ymgais hon (PDF) a'i hanfon, gyda'r tanysgrifiad (£10 ar hyn o bryd) at yr Ysgrifennydd. Mae modd ymuno fel unigolyn am £5 y flwyddyn - defnyddiwch yr un ffurflen ymgais.
HELP!
Mae Archifdy Ceredigion wedi cael ymholiad gan rywun sy'n chwilio am ddisgrifiadau yn y Gymraeg o gyflogaeth domestig ym mhlasdai stad a'r bonedd yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif cynnar. Os ydych chi'n ymwybodol o rhywbeth addas, cysylltwch ag Archifdy Ceredigion gyda'r manylion. Diolch yn fawr.